barod amdani!
Lawrlwytha, archeba,
Bydda’n Actif!
Archebu dosbarthiadau
Gweld amserlenni
Rheoli eich aelodaeth
Newyddion a diweddariadau
Sut i: Cofrestru ar gyfer yr Ap (Cwsmeriaid Presennol)
I gofrestru ar gyfer yr ap, mi fydd angen:
Bydd angen i chi ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer yr ap ag yr ydych wedi’i gofrestru ar ein system – os nad ydych yn siŵr, gwiriwch â ni y tro nesaf y byddwch yn unrhyw un o’n canolfannau.
Ar yr ap, dewisiwch
‘Fy Nghyfrif’.
Wedyn dewisiwch ‘Creu Cyfrif’.
Dewisiwch ‘Cofrestru’.
Bydd angen i chi nodi eich cyfeiriad e-bost, a phenderfynu ar gyfrinair diogel. Mae angen i chi glicio ar y T&Aau i'w derbyn.
Ychwanegu Aelod o’ch Teulu i’ch Cyfrif
Bydd angen i chi wneud hyn os ydych am archebu lle ar gyfer y person hwnnw
e.e. Nofio neu chwarae meddal.
Os ydych chi eisiau ychwanegu aelod o'ch teulu at eich cyfrif, bydd angen i chi wybod:
1
Ar yr ap, dewisiwch
‘Fy Nghyfrif’.
2
Wedyn ‘Diweddaru Manylion’.
3
Mewngofnodi i’r
Cyfrif
Rhowch eich manylion i fewn, a pwyswch ‘Mewngofnodi’
4
Ar y dudalen ‘Hafan’ mae yna opsiwn ‘Rheoli Aelodau’r Teulu’.
5
6
Mae ‘Cyswllt Presennol’ yn golygu rhywun sydd eisioes wedi’u cofrestru ar system Ceredigion Actif.
Mae ‘Cyswllt Newydd’ yn golygu rhywun sydd heb fynychu unrhyw sesiynau o’r blaen.
This is where you manage family members and view their bookings.
7
Rhowch y manylion fel maent yn ymddangos ar system Ceredigion Actif.
8
Yna bydd angen i chi gysylltu â ni fel y gallwn gymeradwyo hyn ar y system.
Anfonwch e-bost at leisure.memberships@ceredigion.gov.uk gyda'ch manylion a manylion y person/pobl yr ydych yn eu hychwanegu.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â’r person rydych yn ei ychwanegu i wirio eu bod yn cydsynio i hyn.
Byddwn yn ymateb i'ch e-bost cyn gynted â phosibl.